30 Cafodd teyrnas Jehosaffat heddwch; roedd Duw wedi rhoi heddwch iddo o bob cyfeiriad.
31 Daeth Jehosaffat yn frenin ar Jwda pan oedd yn dri deg pump oed. Bu'n frenin yn Jerwsalem am ddau ddeg pump o flynyddoedd. Aswba, merch Shilchi oedd ei fam.
32 Fel Asa, ei dad, gwnaeth Jehosaffat bethau oedd yn plesio'r ARGLWYDD.
33 Ond gafodd yr allorau lleol ddim eu cymryd i ffwrdd, a doedd y bobl yn dal ddim yn hollol ffyddlon i Dduw eu hynafiaid.
34 Mae gweddill hanes Jehosaffat, o'r dechrau i'r diwedd, i'w cael yn Negeseuon Jehw fab Chanani, sydd wedi ei gadw yn y sgrôl, Hanes Brenhinoedd Israel.
35 Yn ddiweddarach dyma Jehosaffat, brenin Jwda yn dod i gytundeb gydag Ahaseia, brenin Israel, oedd yn frenin drwg.
36 Dyma nhw'n cytuno i adeiladu llongau masnach mawr ym mhorthladd Etsion-geber.