6 A dyma fe'n gweddïo,“O ARGLWYDD, Duw ein hynafiaid, onid ti ydy'r Duw yn y nefoedd sy'n llywodraethu dros holl deyrnasoedd y byd? Ti'n Dduw nerthol a grymus, a does neb yn gallu sefyll yn dy erbyn.
7 Onid ti, ein Duw, wnaeth yrru'r bobl oedd yn byw y wlad yma allan o flaen dy bobl Israel? Ti wnaeth roi'r tir yma i ddisgynyddion Abraham dy ffrind, am byth.
8 Maen nhw wedi byw yma, ac wedi adeiladu teml i dy anrhydeddu di, gan gredu,
9 ‘Os daw unrhyw drychineb, fel byddin yn ymosod, cael ein barnu drwy haint neu newyn, gallwn ddod i sefyll yma o dy flaen, o flaen y deml (gan dy fod ti'n bresennol yma). Gallwn alw arnat ti a byddi'n gwrando ac yn ein hachub ni.’
10 Ond nawr mae byddinoedd Ammon, Moab a Mynydd Seir yn ymosod arnon ni! Dyma'r bobloedd wnest ti ddim gadael i Israel eu concro ar y ffordd allan o'r Aifft. Roedd rhaid i bobl Israel fynd heibio iddyn nhw a pheidio eu difa.
11 Ac edrych sut maen nhw'n talu'n ôl i ni nawr! Maen nhw'n dod i'n gyrru ni allan o'r tir wnest ti ei roi i ni.
12 Ein Duw, plîs wnei di eu cosbi nhw? Dŷn ni ddim ddigon cryf i wrthsefyll y fyddin enfawr yma sy'n ymosod arnon ni. Dŷn ni ddim yn gwybod beth i'w wneud. Dŷn ni'n troi atat ti am help.”