11 Roedd wedi codi allorau lleol ar y bryniau yn Jwda, ac annog pobl Jerwsalem i addoli duwiau eraill. Roedd wedi arwain pobl Jwda ar gyfeiliorn.
12 Dyma Jehoram yn cael llythyr oddi wrth Elias, y proffwyd, yn dweud, “Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw dy hynafiad Dafydd yn ei ddweud. ‘Dwyt ti ddim wedi ymddwyn yr un fath â Jehosaffat, dy dad ac Asa, brenin Jwda.
13 Ti wedi ymddwyn fel brenhinoedd Israel, ac arwain pobl Jwda a'r rhai sy'n byw yn Jerwsalem i droi cefn ar yr ARGLWYDD, fel mae Ahab a'i deulu wedi gwneud yn Israel. Ac yn waeth na hynny, rwyt ti wedi lladd dy frodyr, ac roedden nhw'n well dynion na ti.
14 Felly mae'r ARGLWYDD yn mynd i daro dy bobl, dy feibion, dy wragedd a phopeth sydd piau ti.
15 A byddi di'n mynd yn sâl ac yn dioddef yn hir o afiechyd ar y bol fydd yn mynd o ddrwg i waeth nes bydd dy goluddyn yn dod allan.’”
16 Dyma'r ARGLWYDD yn annog y Philistiaid a'r Arabiaid oedd yn byw ar gyrion Dwyrain Affrica i godi yn erbyn Jehoram.
17 Dyma nhw'n ymosod ar Jwda, chwalu'r amddiffynfeydd, dwyn popeth gwerthfawr o balas y brenin, a chymryd ei feibion a'i wragedd yn gaethion. Ahaseia, ei fab ifancaf, oedd yr unig un gafodd ei adael ar ôl.