15 A byddi di'n mynd yn sâl ac yn dioddef yn hir o afiechyd ar y bol fydd yn mynd o ddrwg i waeth nes bydd dy goluddyn yn dod allan.’”
16 Dyma'r ARGLWYDD yn annog y Philistiaid a'r Arabiaid oedd yn byw ar gyrion Dwyrain Affrica i godi yn erbyn Jehoram.
17 Dyma nhw'n ymosod ar Jwda, chwalu'r amddiffynfeydd, dwyn popeth gwerthfawr o balas y brenin, a chymryd ei feibion a'i wragedd yn gaethion. Ahaseia, ei fab ifancaf, oedd yr unig un gafodd ei adael ar ôl.
18 Ar ben hyn i gyd dyma'r ARGLWYDD yn achosi i Jehoram ddioddef o salwch marwol yn ei fol.
19 Ar ôl tua dwy flynedd, dyma'i goluddyn yn disgyn allan oherwydd y salwch, a bu farw mewn poen ofnadwy. Wnaeth ei bobl ddim cynnau tân i'w anrhydeddu, fel roedden nhw'n arfer gwneud gyda'i hynafiaid.
20 Roedd Jehoram yn dri deg dau pan ddaeth yn frenin, a bu'n teyrnasu yn Jerwsalem am wyth mlynedd. Doedd neb yn ei golli pan fuodd e farw. Cafodd ei gladdu yn Ninas Dafydd, ond dim ym mynwent y brenhinoedd.