3 Roedd eu tad wedi rhoi llwythi o anrhegion iddyn nhw o arian, aur a gemau yn ogystal a trefi amddiffynnol yn Jwda. Ond Jehoram gafodd fod yn frenin am mai fe oedd yr hynaf.
4 Ar ôl sefydlu ei hun yn frenin ar deyrnas ei dad, dyma fe'n lladd ei frodyr i gyd a rhai o arweinwyr Jwda hefyd.
5 Roedd Jehoram yn dri deg dau pan ddaeth yn frenin, a bu'n teyrnasu yn Jerwsalem am wyth mlynedd.
6 Roedd yn ymddwyn yr un fath â brenhinoedd Israel ac Ahab a'i deulu. Roedd wedi priodi merch Ahab, ac yn gwneud pethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD.
7 Ond doedd yr ARGLWYDD ddim am ddinistrio teulu Dafydd am ei fod wedi gwneud ymrwymiad i Dafydd. Roedd wedi addo iddo byddai ei linach yn teyrnasu am byth.
8 Yn ei gyfnod e dyma Edom yn gwrthryfela yn erbyn Jwda, a dewis eu brenin eu hunain.
9 Felly dyma Jehoram yn croesi gyda'i swyddogion a'i gerbydau rhyfel. Roedd byddin Edom wedi ei amgylchynu. Dyma fe'n ymosod arnyn nhw ganol nos, ond colli'r frwydr wnaeth e.