1 Dyma bobl Jerwsalem yn gwneud Ahaseia, mab ifancaf Jehoram, yn frenin yn ei le. Roedd y fyddin wnaeth ymosod ar Jwda gyda'r Arabiaid wedi lladd y meibion hŷn i gyd. Felly daeth Ahaseia (mab Jehoram) yn frenin ar Jwda.
2 Roedd Ahaseia yn ddau ddeg dau pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin am flwyddyn. Ei fam oedd Athaleia, wyres Omri.
3 Roedd yn ymddwyn fel Ahab a'i deulu, a'i fam oedd yn ei arwain i wneud drwg.
4 Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, fel roedd teulu Ahab wedi gwneud. Ar ôl i'w dad farw, nhw oedd yn ei gynghori, a dyna wnaeth arwain at ei gwymp.