1 Roedd Joas yn saith oed pan gafodd ei wneud yn frenin ar Jwda. Bu'n frenin yn Jerwsalem am bedwar deg o flynyddoedd. Enw ei fam oedd Sifia, ac roedd hi'n dod o Beersheba.
2 Pan oedd Jehoiada'r offeiriad yn dal yn fyw, gwnaeth Joas beth oedd yn plesio'r ARGLWYDD.
3 Jehoiada wnaeth ddewis dwy wraig iddo, a cafodd y ddwy blant iddo – meibion a merched.
4 Dyma Joas yn penderfynu atgyweirio teml yr ARGLWYDD.
5 Galwodd yr offeiriaid a'r Lefiaid at ei gilydd, a dweud wrthyn nhw, “Ewch i drefi Jwda i gyd a casglu'r dreth flynyddol gan bobl Israel, i drwsio teml eich Duw. A gwnewch y peth ar unwaith!” Ond dyma'r Lefiaid yn oedi.
6 Felly dyma'r brenin yn galw Jehoiada'r archoffeiriad i fynd i'w weld, a gofyn iddo, “Pam wyt ti ddim wedi cael y Lefiaid i gasglu'r dreth osododd Moses ar bobl Israel tuag at gynnal pabell y dystiolaeth? Roedden nhw i fod i fynd allan drwy Jwda a Jerwsalem yn ei gasglu.”