17 Ar ôl i Jehoiada farw, dyma arweinwyr Jwda yn dod i gydnabod y brenin. Ond dyma fe'n gwrando ar eu cyngor nhw,
18 troi cefn ar deml yr ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid, a dechrau addoli'r dduwies Ashera a'r delwau. Roedd Duw wedi digio go iawn hefo pobl Jwda a Jerwsalem am iddyn nhw wneud hyn.
19 Anfonodd yr ARGLWYDD broffwydi atyn nhw i'w cael i droi yn ôl ato, ond doedden nhw'n cymryd dim sylw.
20 Daeth ysbryd yr ARGLWYDD ar Sechareia (mab Jehoiada'r offeiriad), a dyma fe'n sefyll o flaen y bobl a cyhoeddi, “Dyma mae Duw'n ddweud. ‘Pam ydych chi'n torri gorchmynion yr ARGLWYDD? Fyddwch chi ddim yn llwyddo. Am i chi droi cefn ar yr ARGLWYDD, mae e wedi troi cefn arnoch chi.’”
21 Ond dyma nhw'n cynllwynio yn ei erbyn, a dyma'r brenin yn gorchymyn ei ladd trwy daflu cerrig ato yn iard y deml.
22 Wnaeth Joas y brenin ddim meddwl mor ffyddlon oedd Jehoiada (tad Sechareia) wedi bod iddo, a dyma fe'n lladd ei fab. Wrth iddo farw, dyma Sechareia'n dweud, “Boed i'r ARGLWYDD weld hyn a dy ddal di'n gyfrifol.”
23 Ar ddiwedd y flwyddyn honno, dyma byddin Syria'n dod i ryfela yn erbyn Joas. Dyma nhw'n ymosod ar Jwda a Jerwsalem ac yn lladd yr arweinwyr i gyd, a dwyn popeth o werth a'i gymryd i frenin Damascus.