24 Er mai byddin fechan anfonodd Syria, dyma'r ARGLWYDD yn rhoi buddugoliaeth iddyn nhw dros fyddin llawer mwy Jwda, am fod pobl Jwda wedi troi cefn ar yr ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid. Cafodd Joas beth roedd e'n ei haeddu.
25 Roedd e wedi ei anafu'n ddrwg yn y frwydr, ac ar ôl i fyddin Syria adael dyma weision Joas yn cynllwynio yn ei erbyn am ei fod wedi lladd mab Jehoiada'r offeiriad. Dyma nhw'n ei lofruddio yn ei wely. Cafodd ei gladdu yn Ninas Dafydd, ond ddim ym mynwent y brenhinoedd.
26 Y rhai wnaeth gynllwynio yn ei erbyn oedd Safad, mab Shimeath (gwraig o wlad Ammon), a Iehosafad, mab Shimrith (gwraig o Moab).
27 Mae hanes ei feibion a'r nifer fawr o negeseuon gan Dduw yn ei erbyn, a'i hanes yn atgyweirio'r deml wedi eu cadw i gyd yn yr ysgrifau yn sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel. Daeth ei fab Amaseia yn frenin yn ei le.