9 Wedyn dyma neges yn cael ei hanfon allan drwy Jwda a Jerwsalem yn gorchymyn i'r bobl ddod i dalu'r dreth oedd Moses, gwas Duw, wedi ei osod ar bobl Israel yn yr anialwch.
10 A dyma'r arweinwyr a'r bobl i gyd yn gwneud hynny'n frwd, ac yn taflu'r arian i'r gist nes oedd hi'n llawn.
11 Wedyn pan oedd y Lefiaid yn gweld fod y gist yn llawn, roedden nhw'n mynd â hi at swyddogion y brenin. Yna roedd ysgrifennydd y brenin a'r prif-offeiriad yn gwagio'r gist ac yna mynd â hi yn ôl i'w lle. Roedd hyn yn digwydd bob dydd am amser hir, a dyma nhw'n casglu lot fawr o arian.
12 Wedyn roedd y brenin a Jehoiada yn rhoi'r arian i'r dynion oedd yn arolygu'r gwaith ar deml yr ARGLWYDD.
13 Roedden nhw'n ei ddefnyddio i gyflogi seiri maen a seiri coed, gweithwyr haearn a chrefftwyr pres i atgyweirio a thrwsio teml yr ARGLWYDD.
14 Pan oedden nhw wedi gorffen eu gwaith, dyma nhw'n mynd â'r arian oedd yn weddill yn ôl i'r brenin a Jehoiada. Cafodd yr arian hwnnw ei ddefnyddio i wneud offer i deml yr ARGLWYDD – offer ar gyfer y gwasanaethau a'r offrymau i'w llosgi, powlenni arogldarth, a llestri eraill o aur ac arian. Roedd offrymau i'w llosgi yn cael eu cyflwyno'n gyson yn y deml ar hyd y cyfnod pan oedd Jehoiada yn fyw.
15 Dyma Jehoiada yn byw i fod yn hen iawn. Bu farw yn gant tri deg oed.