21 Felly dyma Jehoas, brenin Israel, yn mynd i ryfel yn ei erbyn. Dyma nhw'n dod wyneb yn wyneb yn Beth-shemesh ar dir Jwda.
22 Byddin Israel wnaeth ennill y frwydr, a dyma filwyr Jwda i gyd yn dianc am adre.
23 Roedd Jehoas, brenin Israel, wedi dal Amaseia, brenin Jwda, yn Beth-shemesh. A dyma fe'n mynd ag e i Jerwsalem a chwalu waliau'r ddinas o Giât Effraim at Giât y Gornel, pellter o bron i ddau can metr.
24 Yna dyma fe'n cymryd yr holl aur ac arian, a'r llestri oedd yn y deml dan ofal Obed-Edom. Cymerodd drysorau'r palas hefyd, a gwystlon, cyn mynd yn ôl i Samaria.
25 Cafodd Amaseia fab Joas, brenin Jwda, fyw am un deg pump o flynyddoedd ar ôl i Jehoas, brenin Israel, farw.
26 Mae gweddill hanes Amaseia, o'r dechrau i'r diwedd, i'w gael yn y sgrôl Brenhinoedd Jwda ac Israel.
27 Pan wnaeth e droi cefn ar yr ARGLWYDD dyma rhywrai yn Jerwsalem yn cynllwynio yn ei erbyn, a dyma fe'n dianc i Lachish. Ond dyma nhw'n anfon dynion ar ei ôl a'i ladd yno.