6 Talodd dros dair mil cilogram o arian i gyflogi can mil o filwyr o Israel hefyd.
7 Ond daeth proffwyd ato a dweud, “O Frenin, paid mynd â milwyr Israel allan gyda ti. Dydy'r ARGLWYDD ddim gyda Israel, sef dynion Effraim.
8 Hyd yn oed os byddi'n ymladd yn galed, bydd Duw yn gadael i dy elynion ennill y frwydr. Mae Duw yn gallu helpu byddin a threchu byddin.”
9 “Ond dw i wedi talu arian mawr i fyddin Israel – dros dair mil cilogram o arian,” meddai Amaseia. A dyma'r proffwyd yn ateb, “Mae'r ARGLWYDD yn gallu rhoi lot mwy na hynny i ti.”
10 Felly dyma Amaseia'n anfon y milwyr oedd wedi dod o Effraim adre. Roedden nhw'n ddig gyda Jwda, a dyma nhw'n mynd yn ôl i'w gwlad eu hunain wedi gwylltio'n lân.
11 Yna dyma Amaseia'n magu plwc ac arwain ei fyddin i ryfel yn Nyffryn yr Halen, a lladd deg mil o filwyr Edom.
12 Roedden nhw wedi dal deg mil arall yn fyw. Dyma nhw'n eu harwain i ben clogwyn a'u gwthio dros yr ymyl, a cawson nhw i gyd eu lladd ar y creigiau islaw.