8 Hyd yn oed os byddi'n ymladd yn galed, bydd Duw yn gadael i dy elynion ennill y frwydr. Mae Duw yn gallu helpu byddin a threchu byddin.”
9 “Ond dw i wedi talu arian mawr i fyddin Israel – dros dair mil cilogram o arian,” meddai Amaseia. A dyma'r proffwyd yn ateb, “Mae'r ARGLWYDD yn gallu rhoi lot mwy na hynny i ti.”
10 Felly dyma Amaseia'n anfon y milwyr oedd wedi dod o Effraim adre. Roedden nhw'n ddig gyda Jwda, a dyma nhw'n mynd yn ôl i'w gwlad eu hunain wedi gwylltio'n lân.
11 Yna dyma Amaseia'n magu plwc ac arwain ei fyddin i ryfel yn Nyffryn yr Halen, a lladd deg mil o filwyr Edom.
12 Roedden nhw wedi dal deg mil arall yn fyw. Dyma nhw'n eu harwain i ben clogwyn a'u gwthio dros yr ymyl, a cawson nhw i gyd eu lladd ar y creigiau islaw.
13 Yn y cyfamser dyma'r milwyr oedd Amaseia wedi eu hanfon adre yn ymosod ar drefi Jwda rhwng Samaria a Beth-choron. Cafodd tair mil o bobl eu lladd ganddyn nhw a dyma nhw'n dwyn lot fawr o ysbail.
14 Ar ôl ennill y frwydr yn erbyn byddin Edom, dyma Amaseia'n dod â'u duwiau nhw gydag e. Gwnaeth nhw'n dduwiau iddo'i hun, a'u haddoli a llosgi arogldarth o'u blaen.