1 Dyma bobl Jwda yn cymryd Wseia, oedd yn un deg chwech mlwydd oed, a'i wneud yn frenin yn lle ei dad Amaseia.
2 Adeiladodd Wseia dref Elat a'i hadfer i Jwda ar ôl i'r brenin Amaseia farw.
3 Un deg chwech oedd e pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am bum deg dwy o flynyddoedd. Enw ei fam oedd Jecholeia, ac roedd hi'n dod o Jerwsalem.
4 Fel ei dad Amaseia roedd yn gwneud beth oedd yn plesio'r ARGLWYDD.