14 Dyma Wseia'n paratoi digon o darianau, gwaywffyn, helmedau, arfwisg, bwâu a ffyn tafl a cherrig i'r fyddin gyfan.
15 Dyma fe'n cael pobl i ddyfeisio peiriannau rhyfel a'u gosod ar dyrau a chorneli waliau Jerwsalem. Roedd y rhain yn gallu taflu saethau a cherrig mawr. Roedd Duw wedi helpu Wseia a'i wneud yn arweinydd pwerus iawn, ac roedd yn enwog yn bell ac agos.
16 Ond wrth fynd yn gryf dyma fe'n troi'n falch. Ac aeth ei falchder yn drech nag e. Bu'n anffyddlon i'r ARGLWYDD ei Dduw. Aeth i mewn i deml yr ARGLWYDD a llosgi arogldarth ar allor yr arogldarth.
17 Dyma Asareia ac wyth deg o offeiriaid dewr yn mynd ar ei ôl.
18 Dyma nhw'n herio Wseia a dweud wrtho, “Nid dy le di, Wseia, ydy llosgi arogldarth i'r ARGLWYDD. Cyfrifoldeb yr offeiriaid, disgynyddion Aaron, ydy gwneud hynny. Maen nhw wedi cael eu neilltuo'n arbennig i'r gwaith. Dos allan o'r deml. Ti wedi bod yn anffyddlon, a fydd yr ARGLWYDD ddim yn dy anrhydeddu di am hyn.”
19 Roedd Wseia wedi gwylltio. Roedd ganddo lestr o arogldarth yn ei law, ac wrth iddo arthio a gweiddi ar yr offeiriaid dyma glefyd heintus yn torri allan ar ei dalcen. Digwyddodd hyn o flaen llygaid yr offeiriaid, yn y deml wrth ymyl allor yr arogldarth.
20 Pan welodd Asareia'r archoffeiriad, a'r offeiriaid eraill, y dolur ar ei dalcen, dyma nhw'n ei hel allan ar frys. Yn wir roedd e ei hun yn brysio i fynd allan gan mai'r ARGLWYDD oedd wedi ei daro'n wael.