20 Pan welodd Asareia'r archoffeiriad, a'r offeiriaid eraill, y dolur ar ei dalcen, dyma nhw'n ei hel allan ar frys. Yn wir roedd e ei hun yn brysio i fynd allan gan mai'r ARGLWYDD oedd wedi ei daro'n wael.
21 Bu Wseia'n dioddef o glefyd heintus ar y croen nes iddo farw. Roedd rhaid iddo fyw ar wahân i bawb arall, a doedd e ddim yn cael mynd i deml yr ARGLWYDD. Ei fab Jotham oedd yn rhedeg y palas ac yn rheoli'r wlad bryd hynny.
22 Mae gweddill hanes Wseia, o'r dechrau i'r diwedd, wedi ei ysgrifennu gan y proffwyd Eseia fab Amos.
23 Pan fu farw, cafodd Wseia ei gladdu heb fod yn bell o ble claddwyd ei hynafiaid, ond mewn mynwent arall oedd yn perthyn i'r brenhinoedd. (Cafodd ei osod ar wahân am ei fod yn dioddef o glefyd heintus ar y croen.) A daeth ei fab Jotham yn frenin yn ei le.