5 Aeth i ryfel yn erbyn brenin yr Ammoniaid, a'i drechu. Talodd yr Ammoniaid dros dair mil cilogram o arian, mil o dunelli o wenith a mil o dunelli o haidd iddo. Roedd rhaid iddyn nhw dalu yr un faint y ddwy flynedd ganlynol hefyd.
6 Aeth Jotham yn fwy a mwy pwerus, am ei fod yn benderfynol ei fod yn mynd i blesio yr ARGLWYDD ei Dduw.
7 Mae gweddill hanes ei deyrnasiad, ei ymgyrchoedd milwrol a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, i'w gweld yn y sgrôl Brenhinoedd Israel a Jwda.
8 Roedd Jotham yn ddau ddeg pum mlwydd oed pan ddaeth e'n frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am un deg chwech o flynyddoedd.
9 Pan fu Jotham farw, dyma nhw'n ei gladdu yn Ninas Dafydd. A daeth ei fab Ahas yn frenin yn ei le.