1 Roedd Ahas yn ddau ddeg mlwydd oed pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am un deg chwech o flynyddoedd. Ond wnaeth e ddim plesio'r ARGLWYDD fel gwnaeth y Brenin Dafydd.
2 Roedd yn ymddwyn yr un fath â brenhinoedd Israel. Yn waeth na hynny, gwnaeth ddelwau metel o dduwiau Baal,
3 aberthu iddyn nhw yn Nyffryn Ben-hinnom, a llosgi ei fab yn aberth – arferiad cwbl ffiaidd y bobloedd roedd yr ARGLWYDD wedi eu gyrru allan o'r wlad o flaen Israel.
4 Roedd yn aberthu anifeiliaid a llosgi arogldarth ar yr allorau lleol ar y bryniau ac o dan pob coeden ddeiliog.
5 Felly dyma'r ARGLWYDD yn gadael i frenin Syria ymosod arno a'i goncro. Cafodd llawer o'r bobl eu cymryd yn gaeth i Damascus. Wedyn dyma frenin Israel yn ei orchfygu hefyd, a cafodd llawer iawn o'i fyddin eu lladd.