12 Yna dyma rai o arweinwyr Effraim (sef Asareia fab Iehochanan, Berecheia fab Meshilemoth, Iechisceia fab Shalwm ac Amasa fab Chadlai), yn mynd i wynebu'r rhai oedd wedi dod yn ôl o'r frwydr.
13 Dyma nhw'n dweud wrthyn nhw, “Gewch chi ddim dod â'r bobl gymeroch chi'n gaethion yma, i'n gwneud ni'n euog hefyd. Mae'r ARGLWYDD wedi digio gydag Israel fel y mae hi, heb fynd i wneud pethau'n waeth.”
14 Felly o flaen yr arweinwyr a phawb dyma'r milwyr yn rhyddhau'r bobl oedd wedi eu cymryd yn gaeth, a rhoi popeth roedden nhw wedi ei gymryd yn ysbail yn ôl.
15 Cafodd dynion eu dewis i ofalu am y bobl. Dyma nhw'n ffeindio dillad o'r ysbail i'r rhai oedd yn noeth eu gwisgo, rhoi sandalau, bwyd a diod iddyn nhw, ac olew i'w rwbio ar eu croen. Yna dyma nhw'n rhoi pawb oedd yn methu cerdded ar asynnod, a mynd â nhw i gyd yn ôl at eu perthnasau i Jericho, dinas y palmwydd. Wedyn dyma'r dynion yn dod yn ôl adre i Samaria.
16 Bryd hynny dyma'r Brenin Ahas yn gofyn i frenin Asyria am help.
17 Roedd byddin Edom wedi ymosod ar Jwda unwaith eto a chymryd pobl yn gaeth.
18 Roedd y Philistiaid hefyd wedi bod yn ymosod ar drefi Jwda yn yr iseldir a'r Negef. Roedden nhw wedi concro a setlo yn Beth-shemesh, Aialon a Gederoth, a hefyd Socho, Timna a Gimso a'r pentrefi o'u cwmpas.