13 Dyma nhw'n dweud wrthyn nhw, “Gewch chi ddim dod â'r bobl gymeroch chi'n gaethion yma, i'n gwneud ni'n euog hefyd. Mae'r ARGLWYDD wedi digio gydag Israel fel y mae hi, heb fynd i wneud pethau'n waeth.”
14 Felly o flaen yr arweinwyr a phawb dyma'r milwyr yn rhyddhau'r bobl oedd wedi eu cymryd yn gaeth, a rhoi popeth roedden nhw wedi ei gymryd yn ysbail yn ôl.
15 Cafodd dynion eu dewis i ofalu am y bobl. Dyma nhw'n ffeindio dillad o'r ysbail i'r rhai oedd yn noeth eu gwisgo, rhoi sandalau, bwyd a diod iddyn nhw, ac olew i'w rwbio ar eu croen. Yna dyma nhw'n rhoi pawb oedd yn methu cerdded ar asynnod, a mynd â nhw i gyd yn ôl at eu perthnasau i Jericho, dinas y palmwydd. Wedyn dyma'r dynion yn dod yn ôl adre i Samaria.
16 Bryd hynny dyma'r Brenin Ahas yn gofyn i frenin Asyria am help.
17 Roedd byddin Edom wedi ymosod ar Jwda unwaith eto a chymryd pobl yn gaeth.
18 Roedd y Philistiaid hefyd wedi bod yn ymosod ar drefi Jwda yn yr iseldir a'r Negef. Roedden nhw wedi concro a setlo yn Beth-shemesh, Aialon a Gederoth, a hefyd Socho, Timna a Gimso a'r pentrefi o'u cwmpas.
19 Roedd yr ARGLWYDD yn dysgu gwers i Jwda am fod Ahas yn anffyddlon i'r ARGLWYDD ac wedi gadael i bethau fynd allan o reolaeth yn llwyr.