5 Felly dyma'r ARGLWYDD yn gadael i frenin Syria ymosod arno a'i goncro. Cafodd llawer o'r bobl eu cymryd yn gaeth i Damascus. Wedyn dyma frenin Israel yn ei orchfygu hefyd, a cafodd llawer iawn o'i fyddin eu lladd.
6 Lladdwyd 120,000 o filwyr Jwda mewn un diwrnod gan fyddin Pecach fab Remaleia, brenin Israel. Digwyddodd hyn i gyd am fod Jwda wedi troi cefn ar yr ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid.
7 Roedd Sichri, un o arwyr Effraim, wedi lladd Maaseia mab y brenin, Asricam prif swyddog y palas, ac Elcana y swyddog uchaf yn y deyrnas ar ôl y brenin ei hun.
8 Cymerodd yr Israeliaid 200,000 o bobl yn gaeth – gwragedd a phlant. Ac roedden nhw wedi dwyn lot fawr o bethau gwerthfawr hefyd a mynd â'r cwbl yn ôl i Samaria.
9 Roedd yna broffwyd i'r ARGLWYDD o'r enw Oded yn Samaria. Dyma fe'n mynd i gyfarfod y fyddin wrth iddyn nhw gyrraedd y ddinas, a dwedodd wrthyn nhw, “Gwrandwch. Roedd yr ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid, wedi digio gyda Jwda, a gadawodd i chi eu trechu nhw. Ond dych chi wedi mynd dros ben llestri, a lladd yn gwbl ddidrugaredd, ac mae Duw wedi sylwi.
10 A dyma chi nawr yn bwriadu gorfodi pobl Jwda a Jerwsalem i fod yn gaethweision a caethforynion i chi. Ydych chi hefyd ddim wedi gwneud drwg yng ngolwg yr ARGLWYDD eich Duw?
11 Nawr, gwrandwch arna i. Anfonwch y rhai dych chi wedi eu cymryd yn gaeth yn ôl adre. Mae'r ARGLWYDD wedi gwylltio gyda chi.”