16 Aeth yr offeiriaid i mewn i'r deml i'w phuro. A dyma nhw'n dod â phopeth oedd yn aflan allan i'r iard, cyn i'r Lefiaid fynd a'r cwbl allan i ddyffryn Cidron.
17 Roedd y gwaith glanhau wedi dechrau ar ddiwrnod cynta'r mis cyntaf. Mewn wythnos roedden nhw wedi cyrraedd cyntedd teml yr ARGLWYDD. Wedyn am wythnos arall buon nhw'n cysegru'r deml, a cafodd y gwaith ei orffen ar ddiwrnod un deg chwech o'r mis.
18 Yna dyma nhw'n mynd at y Brenin Heseceia a dweud, “Dŷn ni wedi cysegru teml yr ARGLWYDD i gyd, yr allor i losgi aberthau a'i hoffer i gyd, a'r bwrdd mae'r bara i'w osod yn bentwr arno gyda'i holl lestri.
19 Dŷn ni hefyd wedi cysegru'r holl lestri wnaeth y Brenin Ahas eu taflu allan pan oedd yn anffyddlon i Dduw. Maen nhw yn ôl o flaen yr allor.”
20 Yna'n gynnar y bore wedyn dyma Heseceia'n galw arweinwyr y ddinas at ei gilydd a mynd i deml yr ARGLWYDD.
21 Aethon nhw â saith tarw ifanc, saith hwrdd, saith oen a saith bwch gafr yn aberth dros bechod y deyrnas, y deml a gwlad Jwda. A dyma'r brenin yn gofyn i'r offeiriaid (disgynyddion Aaron) eu llosgi'n offrymau ar allor yr ARGLWYDD.
22 Felly dyma'r offeiriaid yn lladd y teirw a sblasio'r gwaed o gwmpas yr allor. Yna gwneud yr un peth gyda'r hyrddod a'r ŵyn.