2 Fel y Brenin Dafydd, ei hynafiad, roedd yn gwneud beth oedd yn plesio'r ARGLWYDD.
3 Yn syth ar ôl iddo ddod yn frenin, dyma Heseceia'n agor drysau teml yr ARGLWYDD a'u trwsio.
4 Dyma fe'n casglu'r offeiriad a'r Lefiaid at ei gilydd yn y sgwâr ar ochr ddwyreiniol y deml,
5 a'u hannerch, “Chi Lefiaid, gwrandwch arna i. Ewch trwy'r ddefod o buro eich hunan cyn mynd ati i gysegru teml yr ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid. Taflwch bopeth sy'n aflan allan o'r Lle Sanctaidd.
6 Mae'n hynafiaid wedi bod yn anffyddlon a gwneud pethau oedd ddim yn plesio'r ARGLWYDD. Roedden nhw wedi troi cefn arno fe a'i deml.
7 Dyma nhw'n cau drysau'r cyntedd a diffodd y lampau. Doedden nhw ddim yn llosgi arogldarth na chyflwyno aberthau yn y lle yma gafodd ei gysegru i Dduw Israel.
8 Dyna pam roedd yr ARGLWYDD wedi digio gyda Jwda a Jerwsalem. Mae'n gwbl amlwg fod beth sydd wedi digwydd yn ofnadwy; mae'n achos dychryn a rhyfeddod i bobl.