27 A dyma Heseceia'n rhoi'r gair iddyn nhw losgi'r offrymau ar yr allor. Wrth iddyn nhw ddechrau gwneud hynny dyma ddechrau canu mawl i'r ARGLWYDD i gyfeiliant yr utgyrn ac offerynnau Dafydd, brenin Israel.
28 Roedd y gynulleidfa gyfan yn plygu i lawr i addoli, y cantorion yn canu a'r utgyrn yn seinio nes i'r offrwm orffen llosgi.
29 Ar ôl llosgi'r offrwm dyma'r brenin a phawb oedd gydag e yn plygu i lawr ac addoli.
30 Yna dyma'r Brenin Heseceia yn dweud wrth y Lefiaid am foli'r ARGLWYDD drwy ganu'r caneuon ysgrifennodd y brenin Dafydd a'r proffwyd Asaff. Felly buon nhw wrthi'n canu'n llawen ac yn plygu i lawr ac yn addoli.
31 Yna dyma Heseceia'n dweud, “Nawr dych chi wedi rhoi eich hunain yn llwyr i'r ARGLWYDD. Dewch i aberthu ac i gyflwyno offrymau diolch iddo.” Felly dyma'r bobl yn dod ag aberthau ac offrymau diolch, ac roedd rhai yn awyddus i ddod ag anifeiliaid yn offrymau i'w llosgi hefyd.
32 Dyma faint o anifeiliaid gafodd eu rhoi gan y gynulleidfa: 70 tarw, 100 o hyrddod a 200 o ddefaid yn offrymau i'w llosgi.
33 Roedd 600 o deirw a 3,000 o ddefaid eraill wedi cael eu rhoi,