6 Mae'n hynafiaid wedi bod yn anffyddlon a gwneud pethau oedd ddim yn plesio'r ARGLWYDD. Roedden nhw wedi troi cefn arno fe a'i deml.
7 Dyma nhw'n cau drysau'r cyntedd a diffodd y lampau. Doedden nhw ddim yn llosgi arogldarth na chyflwyno aberthau yn y lle yma gafodd ei gysegru i Dduw Israel.
8 Dyna pam roedd yr ARGLWYDD wedi digio gyda Jwda a Jerwsalem. Mae'n gwbl amlwg fod beth sydd wedi digwydd yn ofnadwy; mae'n achos dychryn a rhyfeddod i bobl.
9 Dyna pam cafodd dynion eu lladd yn y rhyfel, ac wedyn eu gwragedd a'u plant yn cael eu cymryd yn gaethion.
10 “Nawr, dw i eisiau gwneud ymrwymiad i'r ARGLWYDD, Duw Israel. Falle wedyn y bydd e'n stopio bod mor ddig gyda ni.
11 Felly, ffrindiau, peidiwch bod yn esgeulus. Mae'r ARGLWYDD wedi eich dewis chi i'w wasanaethu ac i losgi arogldarth iddo.”
12 A dyma'r Lefiaid yma yn codi i wneud beth roedd y brenin yn ei orchymyn:Disgynyddion Cohath: Machat fab Amasai a Joel fab AsareiaDisgynyddion Merari: Cish fab Afdi ac Asareia fab Jehalel-elDisgynyddion Gershon: Ioach fab Simma ac Eden fab Ioach