1 Ar ôl i Heseceia fod mor ffyddlon yn gwneud y pethau yma, dyma Senacherib, brenin Asyria yn ymosod ar Jwda. Dyma fe'n gwersylla o gwmpas y trefi amddiffynnol gyda'r bwriad o'u dal nhw.
2 Pan welodd Heseceia fod Senacherib yn bwriadu ymosod ar Jerwsalem,
3 dyma fe'n cyfarfod gyda'i swyddogion a'i arweinwyr milwrol a penderfynu cau'r ffynhonnau dŵr oedd tu allan i'r ddinas.
4 Daeth tyrfa o weithwyr at ei gilydd i fynd ati i gau'r ffynhonnau i gyd, a'r nant oedd yn rhedeg trwy ganol y wlad. “Pam ddylai brenhinoedd Asyria gael digon o ddŵr pan maen nhw'n dod yma?” medden nhw.
5 Wedyn dyma'r brenin Heseceia yn cryfhau'r amddiffynfeydd trwy drwsio'r waliau oedd wedi cwympo, codi tyrau amddiffynnol, adeiladu ail wal ar yr ochr allan, a chryfhau terasau dinas Dafydd. Gorchmynnodd wneud llawer iawn mwy o arfau a thariannau hefyd.