2 Pan welodd Heseceia fod Senacherib yn bwriadu ymosod ar Jerwsalem,
3 dyma fe'n cyfarfod gyda'i swyddogion a'i arweinwyr milwrol a penderfynu cau'r ffynhonnau dŵr oedd tu allan i'r ddinas.
4 Daeth tyrfa o weithwyr at ei gilydd i fynd ati i gau'r ffynhonnau i gyd, a'r nant oedd yn rhedeg trwy ganol y wlad. “Pam ddylai brenhinoedd Asyria gael digon o ddŵr pan maen nhw'n dod yma?” medden nhw.
5 Wedyn dyma'r brenin Heseceia yn cryfhau'r amddiffynfeydd trwy drwsio'r waliau oedd wedi cwympo, codi tyrau amddiffynnol, adeiladu ail wal ar yr ochr allan, a chryfhau terasau dinas Dafydd. Gorchmynnodd wneud llawer iawn mwy o arfau a thariannau hefyd.
6 Yna dyma fe'n penodi swyddogion milwrol dros y fyddin a'u casglu at ei gilydd yn y sgwâr o flaen giât y ddinas. A dyma fe'n eu hannog nhw a dweud,
7 “Byddwch yn gryf a dewr! Peidiwch bod ag ofn a panicio am fod brenin Asyria a'i fyddin ar eu ffordd. Mae yna Un gyda ni sy'n gryfach na'r rhai sydd gyda fe.
8 Dim ond cryfder dynol sydd ganddo fe, ond mae'r ARGLWYDD ein Duw gyda ni i'n helpu ni ac i ymladd ein brwydrau!” Roedd pawb yn teimlo'n well ar ôl clywed geiriau'r brenin.