6 Yna dyma fe'n penodi swyddogion milwrol dros y fyddin a'u casglu at ei gilydd yn y sgwâr o flaen giât y ddinas. A dyma fe'n eu hannog nhw a dweud,
7 “Byddwch yn gryf a dewr! Peidiwch bod ag ofn a panicio am fod brenin Asyria a'i fyddin ar eu ffordd. Mae yna Un gyda ni sy'n gryfach na'r rhai sydd gyda fe.
8 Dim ond cryfder dynol sydd ganddo fe, ond mae'r ARGLWYDD ein Duw gyda ni i'n helpu ni ac i ymladd ein brwydrau!” Roedd pawb yn teimlo'n well ar ôl clywed geiriau'r brenin.
9 Pan oedd Senacherib, brenin Asyria, a'i fyddin yn ymosod ar Lachish, dyma fe'n anfon ei weision i Jerwsalem gyda neges i Heseceia brenin Jwda a phawb oedd yn byw yn y ddinas. Dyma oedd y neges:
10 “Mae Senacherib brenin Asyria yn dweud, ‘Dw i wedi amgylchynu Jerwsalem. Beth sy'n eich gwneud chi mor siŵr y byddwch chi'n iawn?
11 “Bydd yr ARGLWYDD ein Duw yn ein hachub ni o afael brenin Asyria,” meddai Heseceia. Ond mae e'n eich twyllo chi. Byddwch yn marw o newyn a syched!
12 Onid ydy Heseceia wedi cael gwared â'i ganolfannau addoli lleol a'i allorau e, a dweud wrth bobl Jwda mai dim ond wrth un allor maen nhw i fod i addoli?