8 Dim ond cryfder dynol sydd ganddo fe, ond mae'r ARGLWYDD ein Duw gyda ni i'n helpu ni ac i ymladd ein brwydrau!” Roedd pawb yn teimlo'n well ar ôl clywed geiriau'r brenin.
9 Pan oedd Senacherib, brenin Asyria, a'i fyddin yn ymosod ar Lachish, dyma fe'n anfon ei weision i Jerwsalem gyda neges i Heseceia brenin Jwda a phawb oedd yn byw yn y ddinas. Dyma oedd y neges:
10 “Mae Senacherib brenin Asyria yn dweud, ‘Dw i wedi amgylchynu Jerwsalem. Beth sy'n eich gwneud chi mor siŵr y byddwch chi'n iawn?
11 “Bydd yr ARGLWYDD ein Duw yn ein hachub ni o afael brenin Asyria,” meddai Heseceia. Ond mae e'n eich twyllo chi. Byddwch yn marw o newyn a syched!
12 Onid ydy Heseceia wedi cael gwared â'i ganolfannau addoli lleol a'i allorau e, a dweud wrth bobl Jwda mai dim ond wrth un allor maen nhw i fod i addoli?
13 Ydych chi ddim yn sylweddoli beth dw i a'm hynafiaid wedi ei wneud i'r holl wledydd eraill? Wnaeth duwiau'r gwledydd hynny fy rhwystro i rhag cymryd eu tiroedd nhw?
14 Pa un o dduwiau'r gwledydd gafodd eu dinistrio gan fy hynafiaid wnaeth lwyddo i achub eu pobl o'm gafael i? Beth sy'n gwneud i chi feddwl y bydd eich Duw chi yn gwneud hynny?