1 Un deg dwy flwydd oed oedd Manasse pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am bum deg pump o flynyddoedd.
2 Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, pethau cwbl ffiaidd, fel y bobloedd roedd yr ARGLWYDD wedi eu gyrru allan o'r wlad o flaen Israel.
3 Roedd wedi ailgodi'r allorau lleol gafodd eu chwalu gan ei dad, Heseceia. Cododd allorau i dduwiau Baal, a polion i'r dduwies Ashera. Roedd yn plygu i lawr i'r sêr ac yn eu haddoli nhw.
4 Dyma fe hyd yn oed yn adeiladu allorau paganaidd yn y deml – yn y lle'r roedd ARGLWYDD wedi dweud amdano, “Bydd fy enw yn Jerwsalem am byth.”
5 Cododd allorau i'r sêr yn y ddwy iard yn y deml.
6 Llosgodd ei fab yn aberth yn nyffryn Ben-hinnom, ac roedd yn ymarfer dewiniaeth, darogan a swynion. Roedd yn ymhél ag ysbrydion a pobl oedd yn siarad â'r meirw. Gwnaeth lawer iawn o bethau drwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, a'i bryfocio.
7 Roedd hyd yn oed wedi gwneud delw o eilun-dduw a'i gosod yn y deml! – y lle roedd Duw wedi dweud wrth Dafydd a'i fab Solomon amdani, “Dw i wedi dewis Jerwsalem o blith llwythau Israel i gyd, a bydda i'n byw yn y deml yma am byth.