21 Roedd Amon yn ddau ddeg dau pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am ddwy flynedd.
22 Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, yr un fath â'i dad Manasse. Roedd yn aberthu i'r holl ddelwau cerrig roedd ei dad wedi eu gwneud, ac yn eu haddoli.
23 A wnaeth Amon ddim troi yn ôl at yr ARGLWYDD fel ei dad. Gwnaeth fwy a mwy o bethau drwg.
24 Yna dyma rai o'i swyddogion yn cynllwyn yn ei erbyn a'i ladd yn ei balas.
25 Ond wedyn dyma bobl y wlad yn dienyddio pawb oedd wedi bod yn rhan o'r cynllwyn yn ei erbyn. A dyma nhw'n gwneud Joseia, ei fab, yn frenin yn ei le.