6 Llosgodd ei fab yn aberth yn nyffryn Ben-hinnom, ac roedd yn ymarfer dewiniaeth, darogan a swynion. Roedd yn ymhél ag ysbrydion a pobl oedd yn siarad â'r meirw. Gwnaeth lawer iawn o bethau drwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, a'i bryfocio.
7 Roedd hyd yn oed wedi gwneud delw o eilun-dduw a'i gosod yn y deml! – y lle roedd Duw wedi dweud wrth Dafydd a'i fab Solomon amdani, “Dw i wedi dewis Jerwsalem o blith llwythau Israel i gyd, a bydda i'n byw yn y deml yma am byth.
8 Wna i ddim symud Israel allan o'r tir dw i wedi ei roi i'r hynafiaid, cyn belled â'u bod nhw'n gofalu gwneud beth dw i'n ei orchymyn iddyn nhw, sef cadw'r Gyfraith, y rheolau a'r canllawiau gafodd eu rhoi drwy Moses.”
9 Ond wnaethon nhw ddim gwrando. Ac roedd Manasse'n eu harwain nhw i wneud mwy o ddrwg na'r bobloedd roedd yr ARGLWYDD wedi eu gyrru allan o flaen Israel!
10 Roedd yr ARGLWYDD wedi rhybuddio Manasse a'i bobl, ond doedden nhw'n cymryd dim sylw o gwbl.
11 Felly dyma'r ARGLWYDD yn dod ag arweinwyr byddin Asyria yn ei erbyn. Dyma nhw'n dal Manasse, rhoi bachyn yn ei drwyn a'i roi mewn cadwyni pres, a mynd ag e yn gaeth i Babilon.
12 Yng nghanol y creisis dyma fe'n gweddïo ar yr ARGLWYDD ei Dduw, ac edifarhau go iawn o flaen Duw ei hynafiaid.