14 Wrth iddyn nhw ddod â'r arian oedd wedi ei roi yn y deml allan, dyma Chilceia yr offeiriad yn ffeindio sgrôl o'r Gyfraith roddodd yr ARGLWYDD i Moses.
15 Felly dyma Chilceia'n dweud wrth Shaffan yr ysgrifennydd, “Dw i wedi ffeindio sgrôl o'r Gyfraith yn y deml!” A dyma fe'n rhoi'r sgrôl i Shaffan.
16 Yna dyma Shaffan yn mynd â'r sgrôl a dweud wrth y brenin, “Mae dy weision wedi gwneud popeth wnest ti ddweud wrthyn nhw.
17 Maen nhw wedi cyfri'r arian oedd yn y deml, ac wedi ei drosglwyddo i'r dynion sy'n goruchwylio ac i'r gweithwyr.”
18 Yna aeth Shaffan yn ei flaen i ddweud wrth y brenin, “Mae Chilceia'r offeiriad wedi rhoi'r sgrôl yma i mi.” A dyma fe'n darllen ohoni i'r brenin.
19 Pan glywodd y brenin eiriau'r Gyfraith, dyma fe'n rhwygo ei ddillad.
20 Yna dyma fe'n galw am Chilceia, Achicam fab Shaffan, Abdon fab Micha, Shaffan yr ysgrifennydd ac Asaia ei was personol.