22 Felly dyma Chilceia a'r rhai eraill ddewisodd y brenin yn mynd at Hulda y broffwydes. Roedd hi'n wraig i Shalwm (mab Ticfa ac ŵyr Chasra) oedd yn gofalu am y gwisgoedd. Roedd hi'n byw yn Jerwsalem yn y rhan newydd o'r ddinas. A dyma nhw'n dweud yr hanes wrthi.
23 Dyma hi'n dweud, “Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Dwedwch wrth y dyn wnaeth eich anfon chi ata i
24 fy mod i'n mynd i ddod â dinistr ofnadwy ar y wlad yma, ac ar y bobl sy'n byw yma. Bydd yn union fel mae'r melltithion yn y sgrôl sydd wedi ei darllen i frenin Jwda yn dweud.
25 Dw i wedi gwylltio'n lân gyda nhw, a does dim yn mynd i newid hynny. Maen nhw wedi bod yn llosgi arogldarth i dduwiau eraill, a'm gwylltio i gyda'r delwau maen nhw wedi eu gwneud.’
26 Dwedwch wrth frenin Jwda, sydd wedi'ch anfon chi i holi'r ARGLWYDD, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud am beth rwyt ti wedi ei glywed:
27 “Am dy fod ti wedi teimlo i'r byw ac edifarhau pan glywaist ti fy mod i wedi rhybuddio'r lle yma. Am dy fod ti wedi edifarhau a rhwygo dy ddillad ac wylo o'm blaen i, dw i wedi gwrando,”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
28 “Cei di farw a chael dy gladdu mewn heddwch. Fydd dim rhaid i ti fyw i weld y dinistr ofnadwy fydd yn dod ar y wlad yma a'i phobl.”’” A dyma'r dynion yn mynd â'r neges yn ôl i'r brenin.