25 Dw i wedi gwylltio'n lân gyda nhw, a does dim yn mynd i newid hynny. Maen nhw wedi bod yn llosgi arogldarth i dduwiau eraill, a'm gwylltio i gyda'r delwau maen nhw wedi eu gwneud.’
26 Dwedwch wrth frenin Jwda, sydd wedi'ch anfon chi i holi'r ARGLWYDD, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud am beth rwyt ti wedi ei glywed:
27 “Am dy fod ti wedi teimlo i'r byw ac edifarhau pan glywaist ti fy mod i wedi rhybuddio'r lle yma. Am dy fod ti wedi edifarhau a rhwygo dy ddillad ac wylo o'm blaen i, dw i wedi gwrando,”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
28 “Cei di farw a chael dy gladdu mewn heddwch. Fydd dim rhaid i ti fyw i weld y dinistr ofnadwy fydd yn dod ar y wlad yma a'i phobl.”’” A dyma'r dynion yn mynd â'r neges yn ôl i'r brenin.
29 Dyma'r brenin Joseia yn galw arweinwyr Jwda i gyd at ei gilydd yn Jerwsalem.
30 Yna dyma fe'n mynd i'r deml, ac roedd pobl Jwda a Jerwsalem, yr offeiriaid a'r Lefiaid gydag e. Roedd pawb yno, o'r ifancaf i'r hynaf. Yna dyma sgrôl yr ymrwymiad oedd wedi ei darganfod yn y deml yn cael ei darllen yng nghlyw pawb.
31 A dyma'r brenin yn sefyll yn ei le ac addo o flaen yr ARGLWYDD, i wneud ei orau glas i ddilyn yr ARGLWYDD a cadw ei orchmynion, ei ofynion a'i reolau. Roedd yn addo cadw amodau'r ymrwymiad oedd yn y sgrôl.