2 Cronicl 34:3-9 BNET

3 Pan oedd wedi bod yn frenin am wyth mlynedd, ac yn dal yn fachgen ifanc un deg chwech mlwydd oed, dechreuodd addoli Duw fel y Brenin Dafydd. Yna pan oedd yn ugain oed aeth ati i lanhau a phuro Jwda a Jerwsalem trwy gael gwared â'r holl allorau lleol, polion y dduwies Ashera, y delwau cerrig a'r delwau o fetel tawdd.

4 Gorchmynnodd fod allorau Baal i gael eu chwalu, a'r allorau arogldarth uwch eu pennau. Cafodd polion y dduwies Ashera eu torri i lawr, a'r eilunod a'r delwau o fetel eu malu. Roedden nhw'n eu malu'n llwch mân, ac yna'n taflu'r llwch ar feddau'r bobl oedd wedi bod yn aberthu arnyn nhw.

5 Yna cafodd esgyrn yr offeiriaid paganaidd eu llosgi ar eu hallorau eu hunain.Ar ôl puro Jwda a Jerwsalem,

6 dyma fe'n gwneud yr un fath yn y trefi ac adfeilion y pentrefi o'u cwmpas yn ardaloedd Manasse, Effraim a Simeon, a chyn belled a Nafftali.

7 Chwalodd yr allorau a'r polion Ashera, malu'r delwau yn llwch mân, a dinistrio'r allorau arogldarth drwy diroedd gwlad Israel i gyd. Yna aeth yn ôl i Jerwsalem.

8 Pan oedd wedi bod yn frenin am un deg wyth o flynyddoedd roedd yn dal i buro'r wlad a'r deml. Anfonodd Shaffan fab Atsaleia, gyda Maaseia, rheolwr y ddinas a Ioach fab Ioachas y cofnodydd, i atgyweirio teml yr ARGLWYDD ei Dduw.

9 Dyma nhw'n mynd at Chilceia, yr archoffeiriad, a rhoi'r arian oedd wedi ei gasglu yn y deml iddo. Roedd y Lefiaid oedd yn gwarchod y drysau wedi ei gasglu gan bobl Manasse ac Effraim, a phawb oedd ar ôl yn Israel, a hefyd pobl Jwda, Benjamin a'r rhai oedd yn byw yn Jerwsalem.