30 Yna dyma fe'n mynd i'r deml, ac roedd pobl Jwda a Jerwsalem, yr offeiriaid a'r Lefiaid gydag e. Roedd pawb yno, o'r ifancaf i'r hynaf. Yna dyma sgrôl yr ymrwymiad oedd wedi ei darganfod yn y deml yn cael ei darllen yng nghlyw pawb.
31 A dyma'r brenin yn sefyll yn ei le ac addo o flaen yr ARGLWYDD, i wneud ei orau glas i ddilyn yr ARGLWYDD a cadw ei orchmynion, ei ofynion a'i reolau. Roedd yn addo cadw amodau'r ymrwymiad oedd yn y sgrôl.
32 A dyma fe'n galw ar bawb yn Jerwsalem a Benjamin i wneud yr un fath. Gwnaeth pobl Jerwsalem hynny, ac adnewyddu'r ymrwymiad gyda Duw eu hynafiaid.
33 Felly dyma Joseia'n cael gwared a'r holl bethau ffiaidd oedd yn Israel, ac annog pobl Israel i gyd i addoli'r ARGLWYDD eu Duw. A tra buodd e'n frenin wnaethon nhw ddim stopio addoli'r ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid.