5 Yna cafodd esgyrn yr offeiriaid paganaidd eu llosgi ar eu hallorau eu hunain.Ar ôl puro Jwda a Jerwsalem,
6 dyma fe'n gwneud yr un fath yn y trefi ac adfeilion y pentrefi o'u cwmpas yn ardaloedd Manasse, Effraim a Simeon, a chyn belled a Nafftali.
7 Chwalodd yr allorau a'r polion Ashera, malu'r delwau yn llwch mân, a dinistrio'r allorau arogldarth drwy diroedd gwlad Israel i gyd. Yna aeth yn ôl i Jerwsalem.
8 Pan oedd wedi bod yn frenin am un deg wyth o flynyddoedd roedd yn dal i buro'r wlad a'r deml. Anfonodd Shaffan fab Atsaleia, gyda Maaseia, rheolwr y ddinas a Ioach fab Ioachas y cofnodydd, i atgyweirio teml yr ARGLWYDD ei Dduw.
9 Dyma nhw'n mynd at Chilceia, yr archoffeiriad, a rhoi'r arian oedd wedi ei gasglu yn y deml iddo. Roedd y Lefiaid oedd yn gwarchod y drysau wedi ei gasglu gan bobl Manasse ac Effraim, a phawb oedd ar ôl yn Israel, a hefyd pobl Jwda, Benjamin a'r rhai oedd yn byw yn Jerwsalem.
10 A dyma nhw'n ei basio ymlaen i'r rhai oedd yn goruchwylio'r gwaith ar y deml, i dalu'r gweithwyr oedd yn gwneud y gwaith atgyweirio.
11 Cafodd yr arian ei roi i'r seiri coed a'r adeiladwyr i brynu cerrig wedi eu naddu, a choed ar gyfer y trawstiau a'r distiau, i atgyweirio'r adeiladau roedd brenhinoedd Jwda wedi eu hesgeuluso.