1 Dyma Joseia'n dathlu Gŵyl y Pasg i'r ARGLWYDD yn Jerwsalem. Cafodd ŵyn y Pasg eu lladd ar y pedwerydd ar ddeg o'r mis cyntaf.
2 Roedd Joseia wedi trefnu dyletswyddau yr offeiriaid, a'u hannog i wneud eu gwaith yn nheml yr ARGLWYDD.
3 Wedyn dyma fe'n dweud wrth y Lefiaid oedd i ddysgu pobl Israel am yr offrymau a'r aberthau oedd i'w cysegru i'r ARGLWYDD, “Gosodwch yr Arch Sanctaidd yn y deml wnaeth Solomon, mab Dafydd brenin Israel, ei hadeiladu. Does dim angen i chi ei chario ar eich ysgwyddau bellach. Nawr rhowch eich hunain i wasanaethu'r ARGLWYDD eich Duw a'i bobl Israel!
4 Trefnwch eich hunain yn grwpiau yn ôl eich teuluoedd fel roedd y brenin Dafydd a Solomon ei fab wedi dweud.