15 Roedd disgynyddion Asaff, sef y cantorion, yn aros yn eu lle fel roedd Dafydd, Asaff, Heman a Iedwthwn (proffwyd y brenin) wedi dweud. Ac roedd y rhai oedd yn gofalu am y giatiau yn aros lle roedden nhw. Doedd dim rhaid iddyn nhw adael eu lleoedd am fod y Lefiaid eraill yn paratoi eu hoffrymau nhw.
16 Felly cafodd y paratoadau ar gyfer dathlu Pasg yr ARGLWYDD eu gwneud i gyd y diwrnod hwnnw. Cafodd yr offrymau oedd i'w llosgi'n llwyr eu cyflwyno i gyd ar allor yr ARGLWYDD fel roedd y Brenin Joseia wedi gorchymyn.
17 Felly dyma holl bobl Israel oedd yn bresennol yn cadw'r Pasg yr adeg honno, a Gŵyl y Bara Croyw am saith diwrnod.
18 Doedd Pasg tebyg ddim wedi ei gadw yn Israel ers cyfnod y proffwyd Samuel. Doedd dim un o frenhinoedd Israel wedi cynnal Pasg tebyg i'r un yma. Roedd y brenin Joseia, yr offeiriaid a'r Lefiaid, pobl Jwda ac Israel i gyd yno, heb sôn am bawb oedd yn byw yn Jerwsalem.
19 Roedd Joseia wedi bod yn frenin am un deg wyth o flynyddoedd pan gynhaliwyd y Pasg yma.
20 Ar ôl i Joseia gael trefn ar y bopeth yn y deml, dyma Necho, brenin yr Aifft, yn dod i frwydro yn Carcemish ar lan Afon Ewffrates. Aeth Joseia a'i fyddin allan i ymladd yn ei erbyn.
21 Ond dyma Necho yn anfon negeswyr ato, “Beth sydd gan hyn i'w wneud â ti, frenin Jwda? Dw i ddim yn ymosod arnat ti; teyrnas arall dw i'n ei rhyfela. Mae Duw gyda mi, ac wedi dweud wrtho i am frysio, felly stopia ymyrryd rhag i mi dy ddinistrio di.”