17 Felly dyma holl bobl Israel oedd yn bresennol yn cadw'r Pasg yr adeg honno, a Gŵyl y Bara Croyw am saith diwrnod.
18 Doedd Pasg tebyg ddim wedi ei gadw yn Israel ers cyfnod y proffwyd Samuel. Doedd dim un o frenhinoedd Israel wedi cynnal Pasg tebyg i'r un yma. Roedd y brenin Joseia, yr offeiriaid a'r Lefiaid, pobl Jwda ac Israel i gyd yno, heb sôn am bawb oedd yn byw yn Jerwsalem.
19 Roedd Joseia wedi bod yn frenin am un deg wyth o flynyddoedd pan gynhaliwyd y Pasg yma.
20 Ar ôl i Joseia gael trefn ar y bopeth yn y deml, dyma Necho, brenin yr Aifft, yn dod i frwydro yn Carcemish ar lan Afon Ewffrates. Aeth Joseia a'i fyddin allan i ymladd yn ei erbyn.
21 Ond dyma Necho yn anfon negeswyr ato, “Beth sydd gan hyn i'w wneud â ti, frenin Jwda? Dw i ddim yn ymosod arnat ti; teyrnas arall dw i'n ei rhyfela. Mae Duw gyda mi, ac wedi dweud wrtho i am frysio, felly stopia ymyrryd rhag i mi dy ddinistrio di.”
22 Ond wnaeth Joseia ddim troi yn ôl. Dyma fe'n newid ei ddillad i geisio cuddio pwy oedd e. Wnaeth e ddim gwrando ar Necho, er mai Duw oedd wedi rhoi'r neges iddo. Felly aeth allan i ryfela yn ei erbyn ar wastatir Megido.
23 Cafodd y brenin Joseia ei saethu gan fwasaethwyr. A dyma fe'n dweud wrth ei weision, “Ewch â fi o'ma. Dw i wedi cael fy anafu'n ddrwg!”