4 Trefnwch eich hunain yn grwpiau yn ôl eich teuluoedd fel roedd y brenin Dafydd a Solomon ei fab wedi dweud.
5 Safwch yn y deml i helpu'r bobl o'r llwyth mae eich teulu chi yn ei gynrychioli.
6 Lladdwch ŵyn y Pasg, mynd trwy'r ddefod o buro eich hunain, a paratoi popeth i'ch pobl allu gwneud beth roedd yr ARGLWYDD wedi ei ddweud trwy Moses.”
7 Roedd Joseia wedi rhoi ei anifeiliaid ei hun i'r bobl oedd yno eu cyflwyno'n offrwm – 30,000 o ŵyn a geifr ifanc, a 3,000 o deirw ifanc.
8 Rhoddodd ei swyddogion hefyd anifeiliaid yn offrymau gwirfoddol i'r bobl, yr offeiriaid a'r Lefiaid. Rhoddodd Chilceia, Sechareia a Iechiel, prif swyddogion teml Dduw 2,600 o ŵyn a geifr ifanc a 300 o wartheg.
9 Rhoddodd Conaneia a'i frodyr Shemaia a Nethanel, a Chashafeia, Jeiel a Iosafad, arweinwyr y Lefiaid 5,000 o ŵyn a geifr ifanc ar gyfer aberth y Pasg a 500 o wartheg.
10 Pan oedd popeth yn barod, dyma'r offeiriaid yn sefyll yn eu lle, a'r Lefiaid yn eu grwpiau, fel roedd y brenin wedi gorchymyn.