8 Rhoddodd ei swyddogion hefyd anifeiliaid yn offrymau gwirfoddol i'r bobl, yr offeiriaid a'r Lefiaid. Rhoddodd Chilceia, Sechareia a Iechiel, prif swyddogion teml Dduw 2,600 o ŵyn a geifr ifanc a 300 o wartheg.
9 Rhoddodd Conaneia a'i frodyr Shemaia a Nethanel, a Chashafeia, Jeiel a Iosafad, arweinwyr y Lefiaid 5,000 o ŵyn a geifr ifanc ar gyfer aberth y Pasg a 500 o wartheg.
10 Pan oedd popeth yn barod, dyma'r offeiriaid yn sefyll yn eu lle, a'r Lefiaid yn eu grwpiau, fel roedd y brenin wedi gorchymyn.
11 Yna dyma'r nhw'n lladd ŵyn y Pasg, a dyma'r offeiriaid yn sblasio'r gwaed o gwmpas yr allor tra roedd y Lefiaid yn blingo'r anifeiliaid.
12 Roedden nhw'n rhoi'r offrymau oedd i'w llosgi'n llwyr ar un ochr a'u rhannu i'r bobl yn eu grwpiau teuluol er mwyn i'r rheiny eu cyflwyno i'r ARGLWYDD fel mae'n dweud yn Sgrôl Moses. (Roedden nhw'n gwneud yr un peth gyda'r gwartheg hefyd.)
13 Wedyn roedden nhw'n rhostio ŵyn y Pasg ar dân agored yn ôl y ddefod, a berwi'r offrymau sanctaidd mewn crochanau, pedyll a dysglau cyn eu rhannu'n gyflym i'r bobl.
14 Wedyn roedd rhaid i'r Lefiaid baratoi ar gyfer eu hunain a'r offeiriad. Roedd yr offeiriaid, disgynyddion Aaron, yn dal i losgi'r offrymau a'r braster pan oedd hi'n dechrau nosi. Roedd y Lefiaid yn paratoi ar eu cyfer eu hunain a'r offeiriaid, sef disgynyddion Aaron.