16 Ond roedden nhw'n gwneud hwyl ar ben negeswyr Duw, yn cymryd eu geiriau'n ysgafn a dirmygu ei broffwydi. Yn y diwedd roedd yr ARGLWYDD mor ddig gyda nhw doedd dim byd allai neb ei wneud i atal y farn.
17 Anfonodd Duw frenin Babilon yn eu herbyn. Dyma hwnnw'n lladd y dynion ifainc â'r cleddyf yn y deml. Gafodd neb eu harbed – y dynion a'r merched ifainc, na'r hen a'r oedrannus. Gadawodd yr ARGLWYDD iddo eu lladd nhw i gyd.
18 Cymerodd bopeth o deml Dduw, bach a mawr, popeth oedd yn stordai'r deml, a trysorau'r brenin a'i swyddogion, a mynd â'r cwbl i Babilon.
19 Wedyn dyma'r fyddin yn llosgi teml Dduw a bwrw waliau Jerwsalem i lawr. Dyma nhw'n llosgi'r palasau brenhinol a dinistrio popeth gwerthfawr oedd yno.
20 A dyma fe'n mynd â phawb oedd heb gael eu lladd yn gaethion i Babilon. Yno buon nhw'n gaethweision i'r brenin a'i feibion nes i'r Persiaid deyrnasu.
21 Felly daeth beth ddwedodd yr ARGLWYDD drwy Jeremeia yn wir. Cafodd y tir ei Sabothau, arhosodd heb ei drin am saith deg mlynedd.
22 Lai na blwyddyn ar ôl i Cyrus ddod yn frenin Persia, dyma'r ARGLWYDD yn gwneud beth wnaeth e addo trwy Jeremeia. Dyma fe'n ysgogi Cyrus i anfon datganiad allan drwy'r deyrnas i gyd. Dyma'r datganiad: