4 Wedyn dyma fe'n gwneud Eliacim, brawd Jehoachas, yn frenin ar Jwda a Jerwsalem, a newid ei enw i Jehoiacim. Yna cymryd Jehoachas, brawd y brenin, i lawr i'r Aifft.
5 Roedd Jehoiacim yn ddau ddeg pump oed pan gafodd ei wneud yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am un deg un o flynyddoedd. Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD ei Dduw.
6 Dyma Nebwchadnesar, brenin Babilon, yn ymosod ar y wlad. Dyma fe'n ei roi mewn cadwyni pres a mynd ag e'n gaeth i Babilon.
7 Cymerodd Nebwchadnesar rai o lestri teml yr ARGLWYDD a mynd â nhw i Babilon a'u gosod yn ei balas ei hun.
8 Mae gweddill hanes Jehoiacim, a'r pethau ffiaidd wnaeth e, a'r cyhuddiadau yn ei erbyn, i'w gweld yn sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel a Jwda. A daeth ei fab, Jehoiachin, yn frenin yn ei le.
9 Un deg wyth oed oedd Jehoiachin pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am dri mis a deg diwrnod. Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD.
10 Yn y gwanwyn dyma Nebwchadnesar yn anfon rhai i'w gymryd e i Babilon, a llestri gwerthfawr o deml yr ARGLWYDD hefyd. A dyma frenin Babilon yn gwneud perthynas iddo, Sedeceia, yn frenin ar Jwda a Jerwsalem.