9 Un deg wyth oed oedd Jehoiachin pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am dri mis a deg diwrnod. Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD.
10 Yn y gwanwyn dyma Nebwchadnesar yn anfon rhai i'w gymryd e i Babilon, a llestri gwerthfawr o deml yr ARGLWYDD hefyd. A dyma frenin Babilon yn gwneud perthynas iddo, Sedeceia, yn frenin ar Jwda a Jerwsalem.
11 Roedd Sedeceia yn ddau ddeg un oed pan gafodd ei benodi'n frenin. Bu'n teyrnasu yn Jerwsalem am un deg un mlynedd.
12 Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD ei Dduw, a gwrthododd wrando ar y proffwyd Jeremeia oedd yn rhoi neges Duw iddo.
13 Dyma fe'n gwrthryfela yn erbyn y Brenin Nebwchadnesar, er fod hwnnw wedi gwneud iddo addo o flaen Duw y byddai'n deyrngar iddo. Trodd yn ystyfnig a penstiff a gwrthod troi yn ôl at yr ARGLWYDD, Duw Israel.
14 Roedd arweinwyr yr offeiriaid a'r bobl hefyd yn anffyddlon, ac yn gwneud yr un math o bethau ffiaidd a'r gwledydd paganaidd. Dyma nhw'n llygru'r deml oedd wedi ei chysegru i'r ARGLWYDD yn Jerwsalem.
15 Anfonodd yr ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid, broffwydi i'w rhybuddio nhw dro ar ôl tro, am ei fod yn Dduw oedd yn tosturio wrth ei bobl a'i deml.