2 Yna dyma Solomon yn galw arweinwyr Israel (pennaeth pob llwyth a phob teulu) ato i Jerwsalem. Roedd Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD i gael ei symud o Ddinas Dafydd (sef Seion) i'w chartref newydd yn y deml.
3 Roedd pobl Israel i gyd wedi dod at y brenin adeg Gŵyl y Pebyll yn y seithfed mis.
4 Wedi i'r arweinwyr i gyd gyrraedd, dyma'r seremoni yn dechrau. Dyma'r Lefiaid yn codi'r Arch.
5 A dyma'r offeiriaid a'r Lefiaid yn cario Arch Duw, Pabell presenoldeb Duw a'r holl gelfi cysegredig oedd yn y babell.
6 Roedd y Brenin Solomon, a holl bobl Israel oedd gydag e, yn mynd o flaen yr Arch ac yn aberthu defaid a gwartheg i Dduw. Cafodd cymaint o anifeiliaid eu haberthu roedd hi'n amhosibl eu cyfri i gyd!
7 A dyma'r offeiriaid yn dod ag Arch Ymrwymiad Duw i mewn a'i gosod yn ei lle yn y gell fewnol yn y deml, sef y Lle Mwyaf Sanctaidd, o dan adenydd y ceriwbiaid.
8 Roedd adenydd y ceriwbiaid wedi eu lledu dros ble roedd yr Arch yn eistedd. Roedd eu hadenydd yn cysgodi'r Arch a'i pholion.