14 a gweddïo,“O ARGLWYDD, Duw Israel, does dim Duw tebyg i ti yn y nefoedd na'r ddaear! Ti mor ffyddlon, yn cadw dy ymrwymiad i dy weision, y rhai sydd wir eisiau bod yn ufudd i ti.
15 Ti wedi cadw dy addewid i Dafydd fy nhad. Heddiw, yma, ti wedi gwneud beth wnest ti ei addo.
16 Nawr, ARGLWYDD, Duw Israel, cadw'r addewid arall wnest ti i Dafydd, fy nhad. Dyma wnest ti ddweud: ‘Bydd un o dy deulu di ar orsedd Israel am byth, dim ond i dy ddisgynyddion di fod yn ofalus eu bod yn byw yn ffyddlon i'm cyfraith fel rwyt ti wedi gwneud.’
17 Felly nawr, O ARGLWYDD, Duw Israel, gad i'r hyn wnest ti ei ddweud wrth fy nhad, dy was Dafydd, ddod yn wir.
18 Wrth gwrs, dydy Duw ddim wir yn gallu byw gyda'r ddynoliaeth ar y ddaear! Dydy'r awyr i gyd a'r nefoedd uchod ddim digon mawr i dy ddal di! Felly pa obaith sydd i'r deml yma dw i wedi ei hadeiladu?
19 Ond plîs gwrando fy ngweddi yn gofyn am dy help di, O ARGLWYDD fy Nuw. Ateb fi, wrth i mi weddïo'n daer arnat ti.
20 Cadw dy lygaid ar y deml yma nos a dydd. Gwnest ti ddweud y byddi di'n byw yma. Felly ateb weddi dy was dros y lle hwn.