18 Wrth gwrs, dydy Duw ddim wir yn gallu byw gyda'r ddynoliaeth ar y ddaear! Dydy'r awyr i gyd a'r nefoedd uchod ddim digon mawr i dy ddal di! Felly pa obaith sydd i'r deml yma dw i wedi ei hadeiladu?
19 Ond plîs gwrando fy ngweddi yn gofyn am dy help di, O ARGLWYDD fy Nuw. Ateb fi, wrth i mi weddïo'n daer arnat ti.
20 Cadw dy lygaid ar y deml yma nos a dydd. Gwnest ti ddweud y byddi di'n byw yma. Felly ateb weddi dy was dros y lle hwn.
21 Gwranda ar beth mae dy was a dy bobl Israel yn ei weddïo'n daer am y lle yma. Gwranda yn y nefoedd, lle rwyt ti'n byw. Clyw ni a maddau i ni.
22 Os ydy rhywun wedi cael ei gyhuddo o wneud drwg i'w gymydog ac yn mynnu ei fod yn ddieuog o flaen yr allor yn y deml yma,
23 yna gwrando di o'r nefoedd a gweithredu. Barna di rhyngon nhw. Cosba'r un sy'n euog, a gadael i'r dieuog fynd yn rhydd. Rho i'r ddau beth maen nhw'n ei haeddu.
24 Pan fydd dy bobl Israel yn cael eu concro gan y gelyn am bechu yn dy erbyn di. Os byddan nhw'n troi yn ôl atat ti, yn cydnabod pwy wyt ti ac yn gweddïo am dy help di yn y deml yma