2 ‘ARGLWYDD, dyma fi wedi adeiladu teml wych i ti,lle i ti fyw ynddo am byth.’”
3 Yna dyma'r brenin yn troi i wynebu'r gynulleidfa a bendithio holl bobl Israel oedd yn sefyll yno:
4 “Bendith ar yr ARGLWYDD, Duw Israel! Mae wedi gwneud y cwbl roedd wedi ei addo i Dafydd fy nhad. Roedd wedi dweud:
5 ‘Ers i mi ddod â'm pobl allan o wlad yr Aifft, wnes i ddim dewis un ddinas arbennig o blith llwythau Israel i adeiladu teml i fyw ynddi. A wnes i ddim dewis dyn i arwain fy mhobl Israel chwaith.
6 Ond nawr dw i wedi dewis Jerwsalem i aros yno, a Dafydd i arwain fy mhobl Israel.’
7 Roedd fy nhad, Dafydd, wir eisiau adeiladu teml i anrhydeddu'r ARGLWYDD, Duw Israel.
8 Ond dwedodd yr ARGLWYDD wrtho, ‘Ti eisiau adeiladu teml i mi, ac mae'r bwriad yn un da.